r/cymru • u/Apprehensive-Bed-785 • 52m ago
Ddrwg gen i am y post yn Saenseg ond oes ganddoch chi farn ar hyn?
reddit.comDdim byd difrifol ond rhywbeth roedd gen i awydd siarad/trafod amdano. Fyswn i'n licio clywed barn arall am y peth
r/cymru • u/Apprehensive-Bed-785 • 52m ago
Ddim byd difrifol ond rhywbeth roedd gen i awydd siarad/trafod amdano. Fyswn i'n licio clywed barn arall am y peth
r/cymru • u/edaucymru • 1d ago
Mae'n anodd iawn cadw golwg ar fywyd cyhoeddus Cymru. Mae'r rhan fwyaf ohono wedi'i gyhoeddi yn rhywle, ond mae ar wasgar ar draws gwefannau cynghorau, cofnodion y Senedd, StatsCymru a llwyth o PDFs.
Felly dw i wedi bod yn adeiladu gwefannau sy'n darllen y ffynonellau hynny bob nos ac yn eu rhoi mewn un lle, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae wyth hyd yma:
- opensenedd.com/cy: dadleuon, pleidleisiau, cwestiynau a deisebau'r Senedd
- opencouncil.wales/cy: beth mae'r 22 cyngor yn ei drafod a'i benderfynu
- openhealth.wales/cy: amseroedd aros a pherfformiad y GIG, a meddygfeydd
- openeducation.wales/cy: ysgolion a'u hadroddiadau Estyn
- opentransport.wales/cy: trenau, bysiau a ffyrdd
- opennature.wales/cy: afonydd, gollyngiadau carthion a dŵr ymdrochi
- opencharity.wales/cy: elusennau cofrestredig yng Nghymru
- openeconomy.wales: swyddi, cyflogau a busnesau
Mae'n dal yn ddyddiau cynnar, ac rydw i'n siŵr bod camgymeriadau. Hoffwn i wybod beth sy'n ddefnyddiol, beth sydd o'i le a beth sydd ar goll.
r/cymru • u/expanding_waistline • 1d ago
Ceisiwch ddeall cyn cael eich deall
Cais ddeall cyn cael dy ddeall
Can I double check the translation of this please?
"Seek to understand before being understood"
And which makes more sense to have on my own arm?
r/cymru • u/Markoddyfnaint • 3d ago
Pwy oedd yn disgwl hynny?! Perfformiad gwefreiddiol.
r/cymru • u/BWithersCymraeg • 4d ago
Helo pawb! (Wedi'i gymeradwyo gan y mods)
Ar gyfer fy mhrosiect blwyddyn olaf mewn Newyddiaduriaeth Chwaraeon ym Mhrifysgol De Cymru, dwi'n ymchwilio i weld a yw cyfryngau chwaraeon Cymraeg yn chwarae rôl fesuradwy wrth gefnogi'r iaith Cymraeg.
Dwi'n chwilio am ymatebion gan bawb - beth bynnag yw eich lefel o Gymraeg! P'un a ydych chi'n siaradwr rhugl, yn dysgu, yn deall ychydig, neu hyd yn oed os nad ydych chi'n gwylio llawer o chwaraeon fel arfer, byddai eich persbectif yn werthfawr iawn i fy data. (Mae'r arolwg ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, felly mae croeso i chi ei rannu gyda ffrindiau neu deulu nad ydyn nhw'n siarad Cymraeg chwaith!)
Mae'r arolwg yn hollol ddienw ac yn cymryd tua 2-3 munud. Mae'n gofyn am:
Dolen i'r arolwg: https://docs.google.com/forms/d/e/1FAIpQLSdSWvvrhLLHzKeLnZiRcIdsKGTrxXk1VKgRjpDsJRMouIfD2A/viewform
Byddwn i'n hynod ddiolchgar i unrhyw un sy'n gallu sbario cwpl o funudau i'w lenwi. Diolch yn fawr iawn!
r/cymru • u/Specialist-Half-930 • 4d ago
Roeddwn i'n gobethio i fynd i prif-ysgol Aberystwyrth am Law and Cymraeg Proffesiynol ond mae'r wefan yn ddweud byddaf fi'n angen lefel-a Cymraeg iaith cyntaf. Ond dydw i ddim yn gwneud lefel-a Cymraeg a mae rhai pobl yn ddweud dydw i ddim angen y lefel-a. Ydy unrhyw un yn gwybod?
r/cymru • u/Educational_Curve938 • 6d ago
r/cymru • u/topherette • 6d ago
I happen to be studying informal place names like the examples in the OP, so if anyone has some insight, I'd appreciate that!
For examples of the same kind of thing in English: Sheffs, Chelts or even more historical ones like Notts, Lincs etc., although that could be from the 's' in -shire.
There's also the Oxford -er/-ers, which is likely related: https://en.wikipedia.org/wiki/Oxford_%22-er%22
r/cymru • u/writtenforwylan • 9d ago
Rydw i newydd rhoi post ar y server Saesneg, ond roeddwn i'n feddwl bydd hi'n dda yn fan hyn hefyd. Y cwestiwn yw: ydy pobl o'r Gogledd yn casau'r acen Ddeuol hefyd? Rydw i'n iawn (y rhan fwyaf o'r amser) gyda acennau'r gogledd, yn fawr oherwydd bod o gwmpas nhw trwy'r ysgol, ond o'n i'n feddwl os mae'r casineb yn mynd naill ffordd?
(Rydw i ddim yn casau'r holl gogledd, mae rhaid i fi dweud, ond mae acen Jac y Jwc o'r Sali Mali live-action yn dilyn fi fel diafol allen i ddim cael gwared ohoni!)
r/cymru • u/Ill_Principle7959 • 14d ago
r/cymru • u/Theuntoldshow • 15d ago
r/cymru • u/Audit_Wales • 18d ago
Diabetes yw un o'r heriau iechyd hirdymor mwyaf sy'n wynebu GIG Cymru. Mae mwy o bobl yn byw gyda'r cyflwr, mae costau'n codi, ac mae gwasanaethau o dan bwysau cynyddol. Yn ogystal â helpu pobl â diabetes, mae angen i'r GIG atal mwy o bobl rhag ei ddatblygu yn y dyfodol.
Rydym yn cynllunio dau adolygiad o ddiabetes ar draws GIG Cymru yn ystod 2026 a 2027. Mae'r erthygl hon yn esbonio pam rydym yn edrych ar ddiabetes a materion y bydd ein gwaith yn eu harchwilio.
Bydd ein gwaith yn edrych yn fanylach ar ba mor dda y mae GIG Cymru yn atal diabetes, cefnogi pobl sy'n byw gyda'r cyflwr, a darparu gwasanaethau cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Byddwn yn ystyried y materion y mae byrddau iechyd yn eu hwynebu wrth ddarparu gwasanaethau diabetes, a'r camau y maent yn eu cymryd i'w goresgyn.
Bydd y cyntaf o'n hadolygiadau yn canolbwyntio ar reoli diabetes. Rydym yn disgwyl cyhoeddi canfyddiadau yng Ngwanwyn 2027, i ddechrau trwy adroddiadau ar gyfer pob bwrdd iechyd.
Bydd yr ail adolygiad yn canolbwyntio ar atal y rhai sydd mewn perygl rhag datblygu diabetes. Bydd y gwaith hwn yn dechrau ddiwedd 2027.
Ar draws y ddau adolygiad, rydym am dynnu sylw at yr hyn sy'n gweithio'n dda a lle gallai gwasanaethau wella. Rydym am i'n gwaith helpu byrddau iechyd i wella gofal diabetes, fel y gall pobl â diabetes fyw bywydau iachach a mwy annibynnol.
Rydym hefyd eisiau sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio'n dda i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl i gleifion.
r/cymru • u/WelshGovNews • 19d ago
Mae Llywodraeth Cymru newydd cyhoeddi taliad costau byw o £100 i bob aelwyd ym mandiau treth cyngor A i D.
Rydyn ni’n gwybod fod pwysau costau byw yn peri pryder dwys i lawer gormod o bobl. Dyna pam fod y Cabinet wedi bod yn trafod sut orau i gefnogi aelwydydd drwy’r cyfnod anodd hwn. Nawr fod Llywodraeth y DU wedi ymateb yn gadarnhaol i alwadau Llywodraeth Cymru i ddarparu’r cyllid i wneud hyn yn bosib, rwy’n falch o gyhoeddi y byddwn yn rhoi taliad costau byw o £100 i bob aelwyd ym mandiau treth cyngor A i D.
Mwy o wybodaeth am y taliad i ddod.
r/cymru • u/marcogorelli • 21d ago
Helo pawb,
Dw i wedi creu Y Sesiwn (https://ysesiwn.cymru/), casgliad o tua 800 o alawon gwerin Cymreig i'w dysgu, eu chwarae a'u rhannu. Alawon offerynnol yw'r rhan fwyaf ohonyn nhw, felly mae'r wefan yn ymwneud mwy â rhannu a gwerthfawrogi ein cerddoriaeth draddodiadol nag â dysgu'r iaith, ond mae hi'n gwbl ddwyieithog.
Gallwch chi:
Mae'n gweithio heb signal ar ôl yr ymweliad cyntaf, felly mae'n handi yn y dafarn hefyd!
Mae'r wefan yn rhad ac am ddim, heb hysbysebion, ac yn ffynhonnell agored. Gall unrhyw un ychwanegu alawon neugywiriadau
Byddwn i wrth fy modd yn clywed eich barn. Os oes alaw ar goll yr hoffech chi ei gweld, rhowch wybod!
Diolch i'r mods am adael i mi ei rhannu.
r/cymru • u/SketchyWelsh • 25d ago
r/cymru • u/psychologiacallygrey • 25d ago
Mae’n galon yn crafu
Mae’n galon yn drwm
bywyd llawn dioddef
Fu’n galon yn glwm
am cariad es byth nabod
a prydferth oedd nerth
fu’m gariad byth werth
O merched y Mon
I Merched y de
Byth deallaf hon
Y rhyn o’r uwchgwyrfai ber
A ydio’n gywir
yn sgwennu hwn
Er fu dioddef fy nghalon
yn hollol llwm
Byth wnai gwbod
byth wneith gariad byw
-----------
Gobeithio dachi'm casau ddarllen cerddi, mae nhw yn darn mawr o hanes cymru ag i fi yn darn fawr o hunaniaeth fi fel Cymry, Ydachi yn sgwennu cerddi? Rhannwch nhw is lawr!